Cydlynydd Annibynnol Fi

Cydlynydd Annibynnol Fi

Cydlynydd Annibynnol Fi

End Date: 13th October 2025

Ydych chi’n angerddol am helpu eraill i fyw’n annibynnol a chydag urddas? Ydych chi’n credu ym mhŵer cymuned, tosturi a chadw cysylltiad? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Yn Cartrefi Conwy, mae ein pwrpas yn glir; darparu cartrefi fforddiadwy, diogel a sicr wrth greu cyfleoedd i’n tenantiaid ffynnu. Dyma sydd wrth galon popeth a wnawn a’r grym y tu ôl i’n Cynllun Corfforaethol ‘Gyda’n Gilydd’ 2025-2028.

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Annibynnol Fi i gefnogi oedolion ledled Conwy i fyw bywydau boddhaus. O gymdeithasu a mynychu apwyntiadau i helpu gyda thasgau bob dydd, byddwch yn rhan hanfodol o daith rhywun i annibyniaeth.

 

​Wedi’n harwain gan ein Hymrwymiadau Cartrefi – rydym yn gwneud y peth iawn, rydym yn arwain trwy esiampl ac rydym yn gryfach gyda’n gilydd – byddwn yn sicrhau bod pob penderfyniad a wnawn yn rhoi cwsmeriaid a chymunedau yn gyntaf.

 

Rydym yn gwneud y peth iawn – Caredigrwydd yw ein cwmpawd – Byddwn yn ymddiried ynddoch i weithredu’n foesegol ac yn gyfrifol, gan sicrhau bod pob person rydych chi’n ei gefnogi yn teimlo’n ddiogel, yn cael ei werthfawrogi a’i glywed.

 

Rydym yn arwain trwy esiampl – Byddwch y gwahaniaeth rydych chi am ei weld – naill ai drwy fynd gyda rhywun i apwyntiad meddyg teulu, helpu gyda thasgau cartref, neu trwy gynnig clust i wrando, byddwch yn dangos sut beth yw gofal tosturiol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Rydym yn gryfach gyda’n gilydd – Oherwydd nad yw annibyniaeth yn golygu bod ar eich pen eich hun – byddwch yn gweithio’n agos gydag unigolion, teuluoedd a gwasanaethau lleol i feithrin perthnasoedd ystyrlon a chreu rhwydwaith cymorth sy’n grymuso pobl i ffynnu.
Gwnewch gais heddiw a helpwch ni i adeiladu cymuned lle gall pawb fyw’n annibynnol, gydag urddas a hapusrwydd, i ffynnu.
Pam ymuno â ni?

  • Diwylliant tîm cefnogol a chynhwysol
  • Cyfleoedd i dyfu a datblygu
  • Cyfle i wneud effaith barhaol yn eich cymuned
  • Cyfnod penodol hyd at 31 Mawrth 2026
  • Rhan-amser 18.5 awr yr wythnos
  • £12.79 yr awr (£24,676 gros y flwyddyn pro-rata)

Dyddiad cau: 05/10/2025

Rydyn ni’n gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Os ydych chi’n gofyn am unrhyw addasiadau yn ystod y broses recriwtio, os gwelwch yn dda gadewch i ni wybod.

Other Careers Available