Dull newydd o wrando
Mae gwybod bod ein tenantiaid yn fodlon â’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn bwysig iawn i ni. Rydym wedi edrych ar y ffordd rydyn ni’n casglu, dadansoddi a defnyddio adborth tenantiaid am ein gwasanaethau ac rydyn ni wedi gwneud newidiadau i wella sut rydyn ni’n gwneud hyn. Rydym wedi partneru gyda chwmni o’r enw Acuity, byddant yn gwneud galwadau i denantiaid ar ein rhan i ofyn pa mor fodlon ydyn nhw gyda gwasanaethau Cartrefi Conwy. Mae Acuity yn gwmni ymchwil marchnad annibynnol sy’n arbenigo mewn gweithio gyda’r sector tai, felly rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw a dysgu o’u profiad.
Pam mae yna newid?
Roeddem yn arfer anfon arolwg papur at bob tenant unwaith y flwyddyn, roedd angen llawer o bapur a llawer o amser i fewnbynnu a dadansoddi’r canlyniadau. Bydd y dull newydd hwn yn ein helpu i leihau gwastraff ac yn rhoi mwy o wybodaeth gyfoes inni, yn fwy rheolaidd. Mae’n golygu y byddwn yn gwybod mwy am yr hyn sy’n bwysig i ein tenantiaid a beth sy’n gweithio’n dda, yn ogystal â’r hyn y mae angen i ni wneud mwy o waith arno i wella gwasanaethau.
Pwy yw Acuity?
Mae Acuity yn gwmni ymchwil marchnad annibynnol sy’n canolbwyntio ar wybodaeth boddhad tenantiaid. Maent yn gweithio gyda nifer o gymdeithasau tai ledled y DU ac rydym wedi siarad â chwsmeriaid eraill ac maent wedi rhoi adborth da inni. Mae acuity yn rhwym wrth god ymddygiad y gymdeithas ymchwil marchnad a bydd unrhyw wybodaeth y mae tenantiaid yn ei rhoi iddynt yn cael ei thrin yn gyfrinachol a dim ond i wella gwasanaethau y byddant yn ei defnyddio. Rydym hefyd wedi gweithio’n agos gyda Acuity i sicrhau bod y data sy’n cael ei rannu yn ddiogel ac yn cwrdd â’n cyfrifoldebau Diogelu Data.
Pryd all tenantiaid ddisgwyl galwad?
Gwneir galwadau i denantiaid trwy gydol y flwyddyn felly ni allwn ddweud pryd yn union y cânt eu galw ac rydym yn disgwyl i alwadau ddechrau yn ystod Ebrill 2021. Bydd Acuity yn sicrhau bod y sampl o denantiaid a elwir yn gynrychiolaeth deg o’r holl denantiaid sy’n byw yn ein cartrefi. Gall tenantiaid hefyd gael galwad ar ôl i atgyweiriad gael ei gwblhau yn eu cartref, pan fyddant yn symud i gartref newydd, os ydynt wedi riportio digwyddiad Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, neu os ydynt wedi gwneud cwyn. Bydd Acuity yn gofyn ychydig o gwestiynau ichi a fydd yn ein helpu i wybod beth yw eich barn am y gwasanaethau hynnu ac a ydych yn fodlon â’r gwasanaeth ai peidio.
Beth os ydw i eisiau mwy o wybodaeth?
Byddwn yn rhannu’r hyn rydym yn ei ddysgu o’r arolygon hyn yn rhifynnau Gyda’n Gilydd yn y dyfodol, ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr holl wybodaeth yn ddienw ac ni fyddem yn rhannu adborth neu sylwadau unigol. Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth am y dull hwn, ffoniwch Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 124 0040 neu e-bostiwch ymholiadau@cartreficonwy.org