Mae sesiynau chwarae sy’n cael eu cynnal gan gymdeithas dai wedi bod mor boblogaidd gyda phlant fel eu bod nhw’n cael eu hymestyn y tu hwnt i’r haf.
Bydd y rhaglen a drefnir gan Cartrefi Conwy yn awr yn parhau ar ôl ysgol yn ystod y tymor unwaith y bydd gwyliau’r haf yn dod i ben.
Mae hefyd wedi darparu gwaith i ddau berson ifanc, y mae eu swyddi’n cael eu hariannu trwy gynllun Kickstart y llywodraeth.
Dywedodd Megan Eldon, Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol Cartrefi Conwy, fod wyth o sesiynau gweithgareddau hwyl 90 munud yr wythnos yn cael eu cynnal ledled Conwy.
Dywedodd eu bod yn ddiolchgar am gefnogaeth Tîm Datblygu Chwarae Cyngor Bwrdeistref Conwy.
Cartrefi Conwy play scheme Chester Avenue Kinmel Bay; Pictured (front L/R) Lexi Williams, Hazel and Katie Kavanagh, Omar and Jasmine Abdelkhalek, Felix Roberts, Emma Abdelkhalek, Megan Eldon and Ellie Evans. Picture Mandy Jones
Ymhlith y safleoedd lle cynhelir y sesiynau chwarae wythnosol y mae parc cymunedol Rhodfa Caer ym Mae Cinmel lle dywedodd Megan: “Mae tua 10 i 15 o blant oed ysgol gynradd yn dod draw yn rheolaidd yma bob wythnos.
“Maen nhw fel arfer eisoes yn y parc yn aros amdanon ni pan rydyn ni’n cyrraedd yn ein fan ac maen nhw’n helpu’n eiddgar i osod yr offer.
“Mae mor galonogol i ni weld ymateb mor gadarnhaol a gwybod bod ein hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi.”
Un o’r rhai a ymwelodd â sesiynau chwarae Rhodfa Caer oedd Lexi Williams, naw oed, sy’n ddisgybl yn Ysgol Maes Owen, a ddywedodd: “Mae wedi bod yn gymaint o hwyl.
“Mae yna lawer i’w wneud, o rasys sachau a rasys wy a llwy i gyrsiau crefftau a chwrs rhwystrau. Rydw i wrth fy modd yma.”
Dywedodd y ffrindiau a chymdogion Leland Woodbridge a Kyla Green, y ddau yn saith oed, eu bod nhw hefyd wedi cael amser gwych.
Meddai Leland: “Mae’n grêt cael rhywbeth fel hyn i’w wneud efo ffrindiau. Rydyn ni wedi gwneud lliwio, a rhedeg, ac adeiladu efo briciau smalio.”
Ychwanegodd Megan: “Mae’r ymateb a gawsom gan blant ac oedolion i sesiynau chwarae gwyliau haf eleni wedi bod mor gadarnhaol fel ein bod wedi sylweddoli ei fod yn ddarpariaeth werthfawr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn ac mae penderfyniad wedi’i wneud i barhau â gweithgareddau y tu hwnt i adeg y gwyliau. Byddwn yn parhau i gynnig rhaglen wythnosol ar ôl ysgol yn ystod y tymor.”
Croesawyd y newyddion gan Emma Abdelkhalek, Swyddog Datblygu Tŷ Cymunedol Rhodfa Caer.
Dywedodd Emma, sy’n helpu gyda’r sesiynau ym Mae Cinmel: “Mae sesiynau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i les plant. Mae’n gyfle go iawn ar gyfer chwarae creadigol a chymdeithasu mewn ffordd hamddenol, hwyliog y mae pawb o’r plant yn ei mwynhau.
“Rwy’n byw yma ar yr ystâd ym Mae Cinmel ac rwy’n gwybod yn uniongyrchol gymaint o fwynhad y mae’r plant yn ei gael. Mae llawer ohonyn nhw’n fy adnabod neu wedi fy ngweld yn helpu allan ac os ydyn nhw’n fy ngweld yn y stryd neu yn y siopau, maen nhw bob amser yn gofyn pryd mae’r sesiynau chwarae nesaf yn digwydd a faint o’r gloch mae angen iddyn nhw fod yno.”
Hefyd yn rhoi help llaw y mae Ellie Evans o Dîm Datblygu Chwarae Conwy, a dau gydweithiwr ifanc Catrin Owen a John Gill.
Recriwtiodd Cartrefi Conwy Catrin a John trwy gynllun Kickstart y llywodraeth sy’n helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth.
Mae’r ddau wedi cael eu cyflogi am chwe mis i ddechrau ac yn ennill profiad gwerthfawr a allai helpu i lunio eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Dywedodd Catrin, 19 oed, mai’r swydd hon oedd ei swydd gyntaf ers gadael Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.
Meddai: “Roeddwn mor falch o gael y cyfle hwn. Rydw i bob amser wedi bod eisiau gweithio gyda phlant a diolch i’r cyfle Kickstart hwn, byddaf rŵan yn gallu cynnwys y gwaith hwn ar fy CV i’m helpu tuag at fy nod yn y pen draw o weithio efallai fel cynorthwyydd dysgu neu fath arall o waith ieuenctid.
“Mae’n gyfle mor anhygoel i mi. Rydw i wrth fy modd ac mae Cartrefi Conwy yn gwmni gwych i weithio iddo, maen nhw wir yn buddsoddi mewn hyfforddi staff, rydw i’n dysgu cymaint diolch iddyn nhw.”
Cartrefi Conwy play scheme Chester Avenue Kinmel Bay; Pictured Jasmine Abdelkhalek and Lexi Williams. Picture Mandy Jones